Rydym yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i effaith Covid-19, a'r modd
y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng
Nghymru.
Diben y Samariaid yw lleihau nifer y bobl sy’n marw trwy
hunanladdiad. Bob blwyddyn, mae rhwng 300 a 350 o bobl yn marw trwy
hunanladdiad yng Nghymru, sydd tua theirgwaith y nifer sy’n
cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffyrdd. Mae pob un o’r
marwolaethau hyn yn drasiedi sy’n llorio teuluoedd, ffrindiau
a chymunedau.
Mae Samariaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu ffrwd
waith gynhwysfawr ac uchelgeisiol i atal hunanladdiadau
cysylltiedig â phandemig COVID-19. Dylai’r ymagwedd hon
gydnabod natur bellgyrhaeddol a digynsail effaith argyfwng
Covid-19, a bod atal hunanladdiad yn fater o bwys o ran iechyd
meddwl y boblogaeth gyfan. Dylai’r cynllun ymateb i
dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a chael ei seilio ar
strategaeth a strwythurau sy’n bodoli eisoes. Dylai gydnabod
pa mor bwysig yw peidio â thrin trallod fel mater meddygol,
pwysigrwydd cefnogi ymateb tosturiol a meithrin gwydnwch, gan
gydnabod ac adeiladu ar alluogrwydd unigolion a chymunedau. Dylai
gael ei lywio gan yr hyn a wyddom eisoes am y bobl sydd
â’r risg fwyaf a pha gamau gweithredu yw’r
mesurau lliniaru mwyaf effeithiol.
Yn y chwe wythnos ers dechrau’r cyfyngiadau symud, rydym wedi
darparu cymorth emosiynol bron 400,000 o weithiau. Mae galwyr wedi
sôn am COVID-19 yn benodol mewn 1 ym mhob 3 chyswllt cymorth
emosiynol. Mae galwyr yn mynegi pryderon sylweddol am iechyd a
salwch meddwl, teulu a pherthnasoedd, ynysigrwydd ac unigrwydd.
Dywedodd gwirfoddolwyr fod rhai o’r pryderon mwyaf cyffredin
yn cynnwys methu â chael gwasanaethau iechyd meddwl, llai o
fecanweithiau ymdopi – er enghraifft trwy beidio â
gweld ffrindiau, cymryd rhan mewn hobïau neu fod â
threfn bywyd gyson, a straen ar berthnasoedd trwy fod ar
wahân i anwyliaid neu oherwydd tyndra sy’n codi ar
aelwydydd. Mae methu â chael gwasanaethau iechyd meddwl (e.e.
apwyntiadau timau argyfwng) wedi bod yn thema fawr ers
dechrau’r cyfyngiadau symud ac mae’n achosi lefel
gynyddol o drallod i alwyr. Wrth i’r cyfyngiadau symud lacio,
rydym yn clywed mwy o adroddiadau am gymorth annigonol. Mae llinell
gymorth y Samariaid wedi cael ei defnyddio fel adnodd amgen gan rai
galwyr (Ffynhonnell: arolwg gwirfoddolwyr y Samariaid).
Mae gwirfoddolwyr hefyd wedi dweud wrthym fod galwyr yn pryderu am
yr effaith ar anghenion sylfaenol fel bwyd, tai a chyflogaeth.
Mae’r coronafeirws a’r cyfyngiadau symud yn gwaethygu
cyflyrau presennol galwyr – gorbryder yn bennaf, ond hefyd
iselder, anhwylder gorfodaeth